Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Mawrth 2017

Amser: 09.30 - 11.18
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3867


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Bethan Jenkins AC

Tystion:

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru

Julie Rogers, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sian Thomas (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Zoe Kelland (Dirprwy Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 380KB) Gweld fel HTML (206KB)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Iorwerth AC. Roedd Bethan Jenkins AC yn dirprwyo ar ran Rhun.

 

2       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 10 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, y Prif Swyddog Meddygol a Chyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol.

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i roi rhifau i'r Pwyllgor o'r cylch cyntaf o leoedd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu.

 

3       Papurau i’w nodi

3.1   Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - gwelliannau cyfnod 2

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar gyfnod 1 y Bil

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 o'r cyfarfod ar 23 Mawrth 2017

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

5       Ymchwiliad i recriwtio meddygol – trafod y dystiolaeth a'r materion allweddol sy'n deillio o'r gwaith craffu

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod gwaith craffu ei ymchwiliad i recriwtio meddygol cyn iddo baratoi ei adroddiad drafft.

 

6       Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - trafod y cynnyrch drafft

6.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion sydd wedi codi yn ystod y gwaith o graffu ar strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia cyn paratoi ei lythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.